Search:
Croeso cynnes iawn i chi

a diolch am ymweld â’n gwefan. Gobeithio gwnewch chi fwynhau’r wybodaeth ynglŷn â hanes y Côr o amser cyffrous Ivor Sims yn y cychwyn cynta hyd at y presennol, ein gweithgareddau diweddara a’n cynlluniau arbennig ar gyfer y dyfodol.
Mae yna gyfle ar ein gwefan i chi wrando ar ein cerddoriaeth ac os ydych chi’n hoff o’r hyn yr ydych yn ei glywed, pam na wnewch chi archebu rhai o’n CDs yn ein siop ar y we. Siop yma.
Os oes gennych chi ddiddordeb i ddod i un o’n cyngherddau, mae’r manylion i’w cael oddi wrth ein tudalen “Digwyddiadau” ac os ydych chi yn ymweld ag ardal Treforys o bryd i’w gilydd mae yna groeso mawr i chi i’n rihyrsals. Rydyn ni’n ymarfer ddwywaith yr wythnos, nos Sul a nos Fercher am 7 o’r gloch. Mwy o fanylion yma.
Mae 2009 yn flwyddyn brysur iawn i ni. Ym mis Ebrill fe wnaethom ni ryddhau ein CD diweddara “Nella Fantasia”. Dwi wedi gwneud nifer o CDs gyda’r côr fel cyfeilyddes, ond dyma’r tro cynta i mi fel Cyfarwyddwr Cerdd a braint o’r mwyaf oedd cyflawni’r syrpreis annisgwyl yma. Mae e wedi bod yn waith caled dros ben ond yn brofiad aruthrol i ddweud y lleia a dwi’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth fy nghyfeilyddion Jo Scullin, Mike Williams, Alice Reed a fy organydd Les Ryan.
Yn 2010 yr ydyn ni’n dathlu ein penblwydd yn 75 mlwydd oed ac y mae’n addo bod yn flwyddyn arbennig iawn. Mae yna nifer o ddigwyddiadau cyffrous iawn wedi eu trefnu ar gyfer ein dathliad.
Cofiwch ymweld â ni eto cyn bo hir a pheidiwch ag anghofio gadael neges ar ein tudalen gwestai. Cliciwch yma. Mae e’n braf bob amser cael clywed eich sylwadau. Os hoffech chi gysylltu â’r côr, cliciwch yma
Diolch yn fawr eto am ymweld â ni. Pam na ddowch chi’n aelod o MOCSA yr un pryd i fod yn rhan o’n teulu enfawr? Cliciwch yma am fanylion
Hwyl am y tro.
Joy

PRINT this page
SEND this page